Esther Wallington

Bywgraffiad

Cyn dechrau yn ei swydd bresennol gyda Chyllid a Thollau EF ym mis Rhagfyr 2016, roedd Esther yn Gyfarwyddwr AD yn y Weinyddiaeth Amddiffyn, lle bu’n arwain y swyddogaeth Adnoddau Dynol (AD) ar gyfer gweithlu sifilaidd yr Adran o 58,000.

Mae Esther yn weithiwr AD proffesiynol gyda mwy na 15 mlynedd o brofiad yn y sectorau preifat a chyhoeddus, ymunodd â’r Gwasanaeth Sifil ddeng mlynedd yn ôl, lle bu’n gweithio gyntaf ar adolygiadau gallu, rheoli talent y 200 gorau a chynllunio ar gyfer olyniaeth yn Swyddfa’r Cabinet. Symudodd i’r Weinyddiaeth Amddiffyn yn 2011 fel Pennaeth Strategaeth AD, cyn dod yn Gyfarwyddwr AD ym mis Medi 2014.

Rolau blaenorol yn y llywodraeth

  • Prif Swyddog Pobl