Talu’ch bil treth Hunanasesiad
Printable version
1. Trosolwg
Fel arfer, mae’r dyddiadau cau ar gyfer talu’ch bil treth fel a ganlyn:
- 31 Ionawr – ar gyfer treth sydd arnoch ar gyfer y flwyddyn dreth flaenorol (a elwir yn daliad mantoli) a’ch taliad ar gyfrif cyntaf
- 31 Gorffennaf ar gyfer eich ail daliad ar gyfrif
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.
Talu’ch bil treth
Gallwch hefyd ddefnyddio ap CThEF i dalu’ch bil gan ddefnyddio gwasanaeth bancio ar-lein eich banc, neu ap eich banc.
Gallwch wneud taliadau wythnosol neu fisol tuag at eich bil, os yw’n well gennych.
Gallwch gael help os na allwch dalu’ch bil treth mewn pryd.
Dulliau o dalu
Sicrhewch eich bod yn talu Cyllid a Thollau EF (CThEF) erbyn y dyddiad cau. Bydd llog yn cael ei godi arnoch, ac efallai y bydd cosb yn cael ei chodi arnoch os yw’ch taliad yn hwyr.
Mae’r amser y mae angen i chi ei ganiatáu yn dibynnu ar eich dull o dalu.
Ni allwch dalu yn Swyddfa’r Post mwyach.
Ar yr un diwrnod neu’r diwrnod nesaf
Gallwch dalu drwy’r dulliau canlynol:
- drwy’ch cyfrif banc ar-lein
- gan ddefnyddio bancio ar-lein neu dros y ffôn (Taliadau Cyflymach)
- drwy CHAPS
- drwy gerdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol ar-lein
- yn eich banc neu’ch cymdeithas adeiladu
Mae’n rhaid i chi gael slip talu oddi wrth CThEF er mwyn talu mewn banc neu gymdeithas adeiladu.
3 diwrnod gwaith
Gallwch dalu drwy’r dulliau canlynol:
- Bacs
- Debyd Uniongyrchol (os ydych wedi trefnu un gyda CThEF yn flaenorol)
- siec drwy’r post
5 diwrnod gwaith
Gallwch dalu drwy’r dulliau canlynol:
- Debyd Uniongyrchol (os nad ydych wedi trefnu un gyda CThEF yn y gorffennol)
Os yw’r dyddiad cau ar benwythnos neu ŵyl banc, sicrhewch fod eich taliad yn cyrraedd CThEF ar y diwrnod gwaith olaf cyn y dyddiad hwnnw (oni bai eich bod yn talu gan ddefnyddio Taliadau Cyflymach neu â cherdyn debyd neu gerdyn credyd).
Problemau â gwasanaethau talu
Gall gwasanaethau talu ar-lein fod yn araf yn ystod adegau prysur. Edrychwch i weld a oes problemau ar hyn o bryd, neu adegau pan na fyddant ar gael (yn agor tudalen Saesneg).
2. Debyd Uniongyrchol
Trefnwch Ddebyd Uniongyrchol drwy’ch cyfrif ar-lein Cyllid a Thollau EF (CThEF) i wneud taliadau unigol ar gyfer 31 Ionawr.
Gallwch hefyd drefnu Debyd Uniongyrchol arall os oes angen i chi wneud taliad ar gyfrif.
Bydd angen i chi sefydlu taliadau unigol bob tro rydych am dalu drwy Ddebyd Uniongyrchol.
Er mwyn gwneud taliadau Debyd Uniongyrchol wythnosol neu fisol tuag at eich bil treth Hunanasesiad nesaf, trefnwch Gynllun Talu Cyllidebol.
Dod o hyd i’r cyfeirnod ar gyfer eich Debyd Uniongyrchol
Bydd angen i chi ddefnyddio’ch cyfeirnod talu, sy’n 11 o gymeriadau. Dyma’ch Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR), sy’n 10 digid, wedi’i ddilyn gan y llythyren ‘K’.
Bydd hwn naill ai:
- yn eich cyfrif ar-lein CThEF
- ar eich slip talu, os ydych yn cael datganiadau papur
Gall eich taliad gael ei oedi os ydych yn defnyddio’r cyfeirnod anghywir.
Caniatewch 5 diwrnod gwaith i brosesu Debyd Uniongyrchol pan fyddwch yn trefnu un am y tro cyntaf. Dylai gymryd 3 diwrnod gwaith y tro nesaf os ydych yn defnyddio’r un manylion banc.
3. Cymeradwyo taliad drwy’ch cyfrif banc ar-lein
Gallwch dalu’ch bil Hunanasesiad yn uniongyrchol drwy ddefnyddio’ch cyfrif banc ar-lein neu’ch cyfrif banc symudol.
Pan fyddwch yn barod i dalu, dechreuwch eich taliad Hunanasesiad.
Dewiswch yr opsiwn ‘talu drwy gyfrif banc’. Yna, gofynnir i chi fewngofnodi i’ch cyfrif banc ar-lein neu’ch cyfrif banc symudol i gymeradwyo taliad i ‘HMRC Shipley’.
Fel arfer, bydd y taliad yn digwydd ar unwaith, ond weithiau mae’n cymryd hyd at ddwy awr i ymddangos yn eich cyfrif.
Gallwch ddewis dyddiad talu, cyn belled â’i fod cyn dyddiad dyledus eich taliad.
Gwiriwch eich cyfrif i sicrhau bod y taliad wedi mynd allan ar y diwrnod cywir. Os nad yw’r taliad wedi mynd allan yn ôl y disgwyl, siaradwch â’ch banc.
Bydd angen i chi fod â’ch manylion bancio ar-lein wrth law er mwyn talu drwy’r dull hwn.
4. Gwneud trosglwyddiad banc ar-lein neu dros y ffôn
Gallwch dalu’ch bil Hunanasesiad gan ddefnyddio Taliadau Cyflymach, CHAPS neu Bacs.
Talu gan ddefnyddio Taliadau Cyflymach, CHAPS neu Bacs
Bydd eich bil yn rhoi gwybod pa gyfrif banc i dalu i mewn iddo. Os nad oes gennych fil, neu os nad ydych yn siŵr, gallwch dalu i mewn i’r naill gyfrif neu’r llall.
Manylion y cyfrif i’w defnyddio
Talwch i mewn i un o’r cyfrifon canlynol:
- cod didoli - 08 32 10
- rhif y cyfrif - 12001039
- enw’r cyfrif - HMRC Cumbernauld
- cod didoli - 08 32 10
- rhif y cyfrif - 12001020
- enw’r cyfrif - HMRC Shipley
Os yw’ch cyfrif dramor
Talwch i mewn i un o’r cyfrifon canlynol:
- Cod Adnabod y Banc (BIC) - BARCGB22
- rhif y cyfrif (IBAN) - GB62BARC20114770297690
- enw’r cyfrif - HMRC Cumbernauld
- Cod Adnabod y Banc (BIC) - BARCGB22
- rhif y cyfrif (IBAN) - GB03BARC20114783977692
- enw’r cyfrif - HMRC Shipley
Bydd rhai banciau yn codi tâl arnoch os nad ydych yn talu mewn punnoedd sterling.
Yr hyn y bydd ei angen arnoch
Wrth dalu, bydd angen i chi ddefnyddio’ch cyfeirnod talu, sy’n 11 o gymeriadau. Dyma’ch Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR), sy’n 10 digid, wedi’i ddilyn gan y llythyren ‘K’.
Bydd hwn naill ai:
- yn eich cyfrif ar-lein CThEF
- ar eich slip talu, os ydych yn cael datganiadau papur
Gall eich taliad gael ei oedi os ydych yn defnyddio’r cyfeirnod anghywir.
Faint o amser y mae’n ei gymryd
Fel arfer, bydd Taliadau Cyflymach (bancio ar-lein neu dros y ffôn) yn cyrraedd Cyllid a Thollau EF (CThEF) ar yr un diwrnod neu’r diwrnod nesaf, gan gynnwys ar benwythnosau a gwyliau banc.
Fel arfer, bydd taliadau CHAPS yn cyrraedd CThEF ar yr un diwrnod gwaith os byddwch yn talu o fewn amserau prosesu’ch banc.
Fel arfer, bydd taliadau Bacs yn cymryd 3 diwrnod gwaith.
Gall taliadau o dramor gymryd mwy o amser – holwch eich banc.
Taliadau lluosog drwy CHAPS
Anfonwch ffurflen CHAPS ar-lein os hoffech wneud taliad CHAPS unigol i dalu mwy nag un bil Hunanasesiad gan ddefnyddio mwy nag un cyfeirnod talu.
Cyfeiriad bancio CThEF yw:
Barclays Bank PLC
1 Churchill Place
Llundain / London
Y Deyrnas Unedig
E14 5HP
5. Â cherdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol ar-lein
Gallwch dalu ar-lein.
Bydd ffi yn cael ei chodi os talwch â cherdyn credyd corfforaethol neu gerdyn debyd corfforaethol. Nid yw’r ffi yn ad-daladwy.
Nid oes ffi yn cael ei chodi os ydych yn talu â cherdyn debyd personol.
Ni allwch dalu â cherdyn credyd personol.
Wrth dalu, defnyddiwch eich cyfeirnod talu, sy’n 11 o gymeriadau. Dyma’ch Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR), sy’n 10 digid, wedi’i ddilyn gan y llythyren ‘K’. Bydd hwn naill ai:
- yn eich cyfrif ar-lein CThEF
- ar eich slip talu, os ydych yn cael datganiadau papur
Bydd CThEF yn derbyn eich taliad ar y dyddiad y gwnewch y taliad, nid y dyddiad y mae’n cyrraedd ei gyfrif banc – gan gynnwys ar benwythnosau a gwyliau banc.
Os na allwch dalu’ch bil treth Hunanasesiad yn llawn â cherdyn, dylech ddefnyddio dull talu arall megis trosglwyddiad banc.
6. Yn eich banc neu’ch cymdeithas adeiladu
Dim ond os yw’r ddau amod isod yn berthnasol y gallwch dalu ag arian parod neu siec yn eich cangen:
- rydych yn dal i gael datganiadau papur oddi wrth Gyllid a Thollau EF (CThEF)
- mae gennych y slip talu a anfonwyd atoch gan CThEF
Gwnewch eich siec yn daladwy i ‘Cyllid a Thollau EF yn unig’.
Ysgrifennwch eich cyfeirnod talu, sy’n 11 o gymeriadau, ar gefn y siec. Dyma’ch Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR), sy’n 10 digid, wedi’i ddilyn gan y llythyren ‘K’. Bydd y cyfeirnod i’w weld ar y slip talu.
Bydd CThEF yn derbyn eich taliad ar y dyddiad y gwnewch y taliad, ac nid y dyddiad y mae’n cyrraedd ei gyfrif banc (cyn belled â’ch bod yn talu o ddydd Llun i ddydd Gwener).
Os nad oes gennych slip talu
Bydd angen i chi dalu drwy ddull arall yn lle hynny, er enghraifft:
7. Talu â siec drwy’r post
Gallwch anfon siec i Gyllid a Thollau EF (CThEF) drwy’r post.
HMRC
Direct
BX5 5BD
Nid oes angen i chi gynnwys enw stryd, enw dinas na blwch Swyddfa’r Post gyda’r cyfeiriad hwn.
Caniatewch 3 diwrnod gwaith i’ch taliad gyrraedd CThEF.
Yr hyn i’w gynnwys
Gwnewch eich siec yn daladwy i ‘Cyllid a Thollau EF yn unig’.
Ysgrifennwch eich cyfeirnod talu, sy’n 11 o gymeriadau, ar gefn y siec. Dyma’ch Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR), sy’n 10 digid, wedi’i ddilyn gan y llythyren ‘K’. Bydd hwn ar eich slip talu.
Dylech gynnwys y slip talu a anfonwyd atoch gan CThEF (os ydych yn dal i gael datganiadau papur). Peidiwch â phlygu’r slip talu na’r siec, a pheidiwch â’u glynu wrth ei gilydd.
Gall eich taliad gael ei ohirio os na fyddwch yn llenwi’ch siec yn gywir.
Os nad oes gennych slip talu CThEF
Gallwch argraffu slip (yn agor tudalen Saesneg) i’w ddefnyddio i dalu drwy’r post. Ni allwch ddefnyddio hwn mewn banc.
8. Talu’n wythnosol neu’n fisol
Gallwch drefnu cynllun Talu Cyllidebol i wneud taliadau Debyd Uniongyrchol wythnosol neu fisol er mwyn talu’ch bil treth Hunanasesiad nesaf.
Bydd eich taliadau yn cael eu defnyddio yn erbyn eich bil treth nesaf – mae hyn yn golygu y bydd gennych lai i’w dalu erbyn y dyddiad cau ar gyfer talu.
Trefnu’ch Cynllun Talu Cyllidebol
I greu cynllun mae’n rhaid i’ch taliadau o’ch bil treth Hunanasesiad diweddaraf fod yn gyfredol.
Mae taliadau Hunanasesiad yn ddyledus erbyn:
-
31 Ionawr ar gyfer treth sydd arnoch ar gyfer y flwyddyn dreth flaenorol (a elwir yn daliad mantoli), a’ch taliad ar gyfrif cyntaf
-
31 Gorffennaf ar gyfer eich ail daliad ar gyfrif
Os yw’ch taliadau’n gyfredol
-
Dewiswch ‘Debyd Uniongyrchol’ ac ewch i’r opsiwn Cynllun Talu Cyllidebol.
-
Penderfynwch a ydych am wneud taliadau wythnosol neu fisol a faint rydych am ei dalu.
Os nad yw’r swm yr ydych wedi’i dalu yn cynnwys eich holl fil nesaf, bydd angen i chi dalu’r gwahaniaeth. Os oes gennych gredyd, gallwch ofyn am ad-daliad.
Gallwch oedi taliadau am hyd at 6 mis os oes angen.
Os na allwch dalu’ch bil treth
Os ydych wedi methu’ch dyddiad cau ar gyfer talu Hunanasesiad neu os na allwch dalu’r swm sy’n ddyledus gennych, efallai y byddwch yn gallu trefnu cynllun talu (a elwir hefyd yn drefniant ‘Amser i Dalu’).
Gwirio pa gynllun talu sy’n iawn i chi
Defnyddiwch yr offeryn hwn i wirio a allwch drefnu taliadau rheolaidd tuag at eich bil treth Hunanasesiad.
Yr hyn y bydd ei angen arnoch i greu cynllun talu
Bydd angen i chi ddefnyddio’ch cyfeirnod talu, sy’n 11 o gymeriadau, pan fyddwch yn trefnu Debyd Uniongyrchol newydd. Hynny yw, eich Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR) sy’n 10 digid, wedi’i ddilyn gan y llythyren ‘K’.
Bydd hwn naill ai:
-
yn eich cyfrif ar-lein CThEF
-
ar eich slip talu, os ydych yn cael datganiadau papur
9. Drwy'ch cod treth
Gallwch dalu’ch bil treth Hunanasesiad drwy’ch cod treth TWE, cyn belled â bod yr holl amodau isod yn berthnasol:
- mae arnoch lai na £3,000 ar eich bil treth (ni allwch wneud taliad rhannol er mwyn cyrraedd y trothwy hwn)
- rydych eisoes yn talu treth drwy TWE, er enghraifft, rydych yn gyflogai neu’n cael pensiwn cwmni
- gwnaethoch gyflwyno’ch Ffurflen Dreth ar bapur erbyn 31 Hydref, neu’ch Ffurflen Dreth ar-lein erbyn 30 Rhagfyr
Sut mae’n gweithio
Bydd Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn casglu’r hyn sydd arnoch yn awtomatig drwy’ch cod treth os ydych yn bodloni pob un o’r 3 amod, oni bai eich bod wedi gofyn yn benodol iddynt beidio â gwneud hynny (ar eich Ffurflen Dreth).
Os nad ydych yn gymwys, ni fyddwch yn gallu talu yn y ffordd hon.
Pryd na allwch dalu drwy’ch cod treth
Ni fyddwch yn gallu talu’ch bil treth drwy’ch cod treth TWE os yw’r amodau isod yn berthnasol:
- nid oes gennych ddigon o incwm TWE i CThEF allu casglu’r dreth sydd arnoch
- byddech yn talu mwy na 50% o’ch incwm TWE mewn treth
- yn y pen draw, byddech yn talu mwy na dwywaith cymaint o dreth ag yr ydych yn ei thalu fel arfer
- roedd arnoch £3,000 neu fwy, ond gwnaethoch daliad rhannol i ostwng y swm sydd arnoch i lai na £3,000
Os ydych yn hunangyflogedig, ni allwch dalu Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 drwy’ch cod treth, oni bai bod yr Yswiriant Gwladol wedi bod yn ddyledus ers cyn 6 Ebrill 2015. Mae’n rhaid i chi ddefnyddio un o’r dulliau talu eraill erbyn y dyddiad cau yn lle hynny.
Sut y gwneir didyniadau
Bydd y dreth sydd arnoch yn cael ei thynnu oddi wrth eich cyflog neu’ch pensiwn fesul rhandaliad cyfartal dros 12 mis, ynghyd â’ch didyniadau treth arferol.
10. Gwirio bod eich taliad wedi cyrraedd
Ewch i’ch cyfrif ar-lein Cyllid a Thollau EF i wirio a yw’ch taliad wedi cyrraedd – dylai ddangos fel ei fod wedi’i dalu cyn pen 3 i 6 diwrnod gwaith yn ddiweddarach.
Os ydych yn talu drwy’r post, gallwch gynnwys llythyr gyda’ch taliad er mwyn gofyn am dderbynneb oddi wrth CThEF.